Ael y Bryn
Eglwyswrw
Crymych
Sir Benfro
Gorllewin Cymru
SA41 3UL
UK
FFôn:
+44 (0)1239 891411
http://www.aelybrynpembrokeshire.co.uk
Mae Ael y Bryn oddi ar yr A478 rhwng Aberteifi ac Abergwaun. Trowch i'r lôn wrth ochr hen adeilad Swyddfa Post Eglwyswrw (yr adeilad a ddaw yn syth ar ôl y maes parcio) a dilynwch y lôn honno am ¼ milltir. Wrth i'r lôn ledaenu, mae Ael y Bryn ar y chwith.
Mae mynediad dros grid gwartheg llydan neu drwy gat i gerddwyr i ardal barcio a bacio ar darmac gwastad.
Mae'r fynedfa, y dreif a'r llwybrau wedi'u goleuo gyda'r nos.
Mae llwybr gwastad o amgylch perimedr y tŷ.
Mae palmant gwastad o'r ardal barcio i'r drysau blaen dwbl, yr iard fewnol a'r ystafell haul.
Cedwir lle parcio ger y drws blaen i bobl sy' biau "Blue Badge".
Gallwn gynnig cymorth gyda bagiau.
Mae gan yr ystafell gotiau yn y neuadd dderbyn ddrws yn agor am allan.
Mae'r holl ystafelloedd i'r cyhoedd ar y llawr gwaelod.
Mae tair ystafell i ymwelwyr: mae mynediad i un ystafell yn wastad â'r llawr; mae mynediad i'r ddwy ystafell wely arall i lawr bum gris.
Mae dau set o risiau, y ddau â phum gris yr un. Mae lifft platfform (sydd yn 650mm o led) ar gael i gadeiriau olwyn i gysylltu yr ystafelloedd i'r cyhoedd â dwy o'r ystafelloedd gwely.
Mae'r holl ystafelloedd a'r neuadd wedi'u goleuo'n dda gyda digonedd o olau dydd neu olau lamp yn y nos. Mae'r coridorau yn 950mm o led.
Mae'r drysau mewnol yn agor i led clir o 898mm, ac mae iddynt ddolenni lifer.
Mae cyfleusterau ensuite i'r tair ystafell wely i ymwelwyr. Gellir trefnu'r gwelyau yn dwy o'r ystafelloedd fel gwelyau gefell neu fel gwely maint superking. Mae'r gwely yn y drydedd ystafell yn un kingsize.
Mae bath a chawod ar wahân i bob ystafell, gyda'r gawod yn 1200 mm o led, a drws llithro (420mm o led ar agor) ac mae gris 150mm (6”) i mewn iddo.
Mae gan pob bath bwrdd-bath a chanllaw sy'n glynu wrth y mur trwy sugniad.
Mae i bob ystafell ymolchi ddigon o olau naturiol, golau'n hongian o'r nenfwd, system awyru naturiol a ffan wagio.
Byddwn yn cynnig cymorth mewn unrhyw argyfwng sy'n digwydd codi.
Mae i bob ystafell wely degell ddiwifr gyda chyfleusterau gwneud te a choffi, teledu gyda chwaraeydd DVD, cloc larwm-radio/chwaraeydd CD ac oergell fach.
Mae bwydlen brecwast âg argraff fawr ar gael.
Gan fod nifer o nodweddion dŵr yn rhan o'r eiddo nid yw'r llety yn addas ar gyfer plant o dan 16 oed.
Nid oes gennym gŵn nac unrhyw anifeiliaid eraill; ni allwn ddarparu llety i anifeiliaid anwes.
Mae rhwydweithiau ffôn ar gael yma, heblaw ar hyd rhannau o'r arfordir a'r mynyddoedd.
Mae gwybodaeth am deithiau "cerdded" i gadeiriau olwyn ar hyd neu ger y Llwybr Arfordirol.
Mae Ael y Bryn wedi'i leoli mewn ardal wledig; mae gwartheg a defaid yn pori mewn caeau gerllaw. Mae golygfeydd panoramig helaeth o fynyddoedd y Preseli.
Mae nifer o flodau persawrus a pherlysiau, a cherfluniau pren a metel yn yr ardd. Mae llwybr o amgylch yr ardd a phwll dŵr gyda mannau i eistedd. Mae nifer o nodweddion dŵr o amgylch yr eiddo gyda phistyll, rhaeadrau, nant naturiol a phwll dŵr gyda bywyd gwyllt. Mae 'r pwll dŵr yn denu ystod eang o adar a bywyd gwyllt.
Mae bws trafnidiaeth gyhoeddus i Aberteifi (Cardigan) a Hwlffordd (Haverfordwest) drwy Abergwaun (Fishguard) ar ddiwedd y lôn.
Mae gwasanaethau tacsi lleol ar gael yn Aberteifi a Boncath.
Ael y Bryn yw ein cartref, ac 'rydym ar gael i'ch cynorthwyo yn ystod eich arhosiad gyda ni.