Golwg yr ystafell Carningli wedi'i drefnu gyda gwely superking. Golwg yr Ystafell Preseli wedi'i drefnu gyda gwely superking.
Ennillwr y Wobr Aur Croeso Cymru 2012. Croeso Cymru grad 5 seren.

Yr ystafelloedd gwely

Baner y Ddraig GochThe Union Jack flag

Rydym yn gallu darparu llety ar gyfer 8 gwesteion mewn 4 ystafell ddwbl: mae gennym tair ystafell ddwbl/efell fawr a moethus ac un ystafell wely ddwbl fawr a moethus.

Mae cyfleusterau ensuite i bob ystafell wely. Mae'r ystafelloedd ymolchi yn olau ac eang; mae gan tair o'r ystafelloedd bath a chawod fawr ar wahân i bob un. Mae gan y 'suite' Carn Menyn dim bath ond cawod fawr eang. Mae digon o ddŵr poeth o'r prif gyflenwad i'r gawod. Rydym hefyd yn darparu gynau ymolchi tyweli.

Mae'r ystafelloedd i gyd wedi'u dodrefnu gyda chwpwrdd dillad a droriau gyda lle digonol, a bwrdd gwisgo gyda golau darllen annibynnol. Mae cyfleusterau gwneud te a choffi wedi'u darparu.

Mae i bob ystafell fynediad i'r we, ffan i oeri, cloc larwm-radio digidol DAB, a chwaraeydd DVD/ CD'au/teledu wedi'u cyfuno. Mae Freeview a darllenydd cerdyn SD i'r teledu.

Gellir trefnu'r gwelyau yn yr ystafell ddwbl/efell fel dau wely sengl neu fel gwely super king, yn ôl eich dymuniad, er mwyn ychwanegu elfen o foethusrwydd. Mae gwely king-size yn yr ystafell ddwbl.

Suite 'Carn Menyn'

Ystafell ar y llawr gwaelod yw hon, gallwn ei threfnu fel ystafell efell neu gyda gwely superking. Mae gan yr ystafell hon ystafell eistedd yn cynnwys ddwy cadair gefn gyfforddus a teledu 32" a chwaraewr blu-ray. Mae yna hefyd drws preifat i'r patio a'r ardd. Mae pum gris i'w disgyn o'r llawr gwaelod i'r ystafell. Mae lifft platfform ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael ar gyfer mynediad hefyd, os oes angen.

Ystafell 'Carn Ingli'

Ystafell ar y llawr gwaelod yw hon, gallwn ei threfnu fel ystafell efell neu gyda gwely superking. Mae mynediad i'r ystafell yn wastad â'r llawr.


Ystafell 'Preseli'

Ystafell ddwbl ar y llawr gwaelod yw hon a gallwn ei threfnu fel ystafell efell neu superking. Mae pum gris i'w disgyn o'r llawr gwaelod i'r ystafell. Mae lifft platfform ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael ar gyfer mynediad hefyd, os oes angen.


Ystafell 'Pengelli'

Ystafell ddwbl ar y llawr gwaelod yw hon gyda gwely king-size. Mae pum gris i'w disgyn o'r llawr gwaelod i'r ystafell. Mae lifft platfform ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael ar gyfer mynediad hefyd, os oes angen.