Ael y Bryn
Eglwyswrw
Crymych
Sir Benfro
Gorllewin Cymru
SA41 3UL
UK
FFôn:
+44 (0)1239 891411
http://www.aelybrynpembrokeshire.co.uk
Rydym yn cynnig brecwast llawn wedi'i goginio sy'n cynnwys yr eitemau canlynol:
Sudd ffrwythau
Grawnfwyd
Iogyrtiau
Salad ffrwythau ffres
Ffrwythau sych mewn sudd afal
Grawnffrwyth
Mêl, jam, marmalêd
Tost bara cyflawn a gwyn.
Cig moch
Tomatos
Wyau wedi’u: ffrio, sgramblo, berwi, potsio
Madarch
Bara saim
Selsig
Ffa pob
Tatws o’r badell
Ciperiaid.
Mae uwd a hadog mwg ar gael os gofynnwch o flaen llaw.
Mae prydau gyda'r hwyr ar gael, gyda rhybudd o flaen llaw. Rydym wrth ein bodd yn paratoi a chyflwyno prydau blasus gan ddefnyddio'r cynhwysion Cymreig gorau pan fo hynny'n bosibl. Gallwn baratoi prydau rhyngwladol a llysieuol yn ôl y galw. Gallwn gynnig pryd dau neu dri chwrs gyda'r hwyr.
Wrth drefnu i aros rhowch wybod, os gwelwch yn dda, am unrhyw anghenion dietegol, er enghraifft os ydych yn llysieuwr, ac yn enwedig os oes bwydydd y dylem osgoi eu paratoi ar eich cyfer.
Nid oes gennym drwydded i werthu alcohol, ond mae croeso i chi ddod â gwin eich hun. Nid ydym yn codi tâl gweini.
Rydym yn paratoi pryd penodol ar gyfer bob dydd a dewis o ddau bwdin. Mae'r fwydlen ganlynol yn rhoi syniad o'r hyn yr ydym yn ei ddarparu:
Cwrs cyntaf : Madarch wedi'u llenwi â phate, wedi'u ffrio a'u cyflwyno mewn saws gwin coch.
Prif gwrs : Bourgignon cig eidion gyda thwmplenni â pherlysiau a dewis o lysiau ffres
Dewis o bwdin : Cacen gaws pin afal neu grymbl riwbob