Ael y Bryn
Eglwyswrw
Crymych
Sir Benfro
Gorllewin Cymru
SA41 3UL
UK
FFôn:
+44 (0)1239 891411
http://www.aelybrynpembrokeshire.co.uk
Mae Ael y Bryn oddi ar yr A487 yn Eglwyswrw, Gogledd Penfro – cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SN 141 392 – neu fap lleoliad.
I ddod o hyd i'r ffordd atom, rhowch ein cod post: SA41 3UL i un o'r cynllunwyr teithio ar lein:
Yr AA, Yr RAC, a Green Flag.
O Abergwaun, ewch ar hyd yr A487 am Aberteifi (cardigan).
Ewch trwy Trefdraeth (Newport).
Yn Eglwyswrw, mae'r eglwys ar y dde a'r maes parcio bach ar y chwith.
Ewch heibio'r maes parcio a thrwoch i'r chwith i lôn gul.
Mae'r lôn yn gwyro i'r dde – dilynwch y lôn i fyny'r rhiw am ryw ¼ milltir.
Ewch yn syth heibio'r troad sydd ar y chwith ac ar ôl 100 llath/metr, wrth i'r lôn ledaenu, mae Ael y Bryn ar y chwith.
Trwoch i'r tŷ dros y grid gwartheg, at groeso gwresog.
O Aberteifi, ewch ar hyd yr A487 am Abergwaun (Fishguard).
Yn Eglwyswrw, ar waelod y rhiw ac wedi'r arwydd 30 m.y.a., trowch i'r dde i lôn gul.
Mae'r lôn yn gwyro i'r dde – dilynwch y lôn i fyny'r rhiw am ryw ¼ milltir.
Ewch yn syth heibio'r troad sydd ar y chwith ac ar ôl 100 llath/metr, wrth i'r lôn ledaenu, mae Ael y Bryn ar y chwith.
Trwoch i'r tŷ dros y grid gwartheg, at groeso gwresog.
O Gaerfyrddin, ewch ar hyd yr A40 tuag at Hwlffrodd (Haverfordwest).
Wedi mynd drwy Landdewi Velfrey, trowch i'r dde ar gylchfan Penblewin ar yr A478 i Aberteifi.
Yng Nghrymych, trowch i'r chwith wrth ochr y Crymych Arms ar heol dda, ond sydd heb rif iddi, i Eglwyswrw.
Wrth y cyffordd-T, trowch i'r chwith ar y B4332 i Eglwyswrw.
Wrth y gyffordd-T nesaf (gyda'r eglwys ar y dde) trowch i'r dde i fynd ar yr A487.
Ewch heibio'r maes parcio ar y chwith a'r tŷ lliw hufen cyn troi i'r chwith i lôn gul.
Mae'r lôn yn gwyro i'r dde – dilynwch y lôn i fyny'r rhiw am ryw ¼ milltir.
Ewch heibio'r troad sydd ar y chwith ac ar ôl 100 llath/metr, wrth i'r lôn ledaenu, mae Ael y Bryn ar y chwith.
Trwoch i'r tŷ dros y grid gwartheg, at groeso gwresog.
Nodyn i ddefnyddwyr llywio lloeren: Os nad ydych yn dilyn y cyfeiriadau uchod ond yn dilyn y ffordd fyrraf, ar ôl mynd drwy Gaerfyrddin gall eich cyfeirio oddi ar A40 i'r B4298 drwy Feidrim. Mae'r heol B hon yn gul mewn mannau gyda throeon siarp. Awgrymwn eich bod yn anwybyddu cyfeiriadau'r llywio lloeren ac yn parhau tuag at Sanclêr a dilyn cyfeiriadau eich llywio lloeren oddi yno wedi iddo ail-ddarganfod llwybr.