Y prif ystafell fwyta. Y prif ystafell fwyta wrth edrych tuag at y ffenestri.
 Datganiad mynediad  Croeso Cymru grad 5 seren.Ennillwr y Wobr Aur Croeso Cymru 2010.

Iaith Cymraeg English Language
Tudalen blaen
Yr ystafelloedd gwely
Bwyd
Prisiau gwely, brecwast a phryd min nos
Sut i ddod o hyd i ni
Datganiad Mynediad
Gweithgareddau yn Sir Benfro
Yr hyn mae gwesteion yn ei werthfawrogi
Oriel
Polisi'r amgylchedd
Hanes Ael y Bryn
Ymholiadau



stay@aelybrynpembrokeshire.co.uk

Ael y Bryn

Eglwyswrw

Crymych

Sir Benfro

Gorllewin Cymru

SA41 3UL

UK


FFôn:

+44 (0)1239 891411




Cysylltiadau'r we

Mae'r datganiad canlynol yn disgrifio'r sefyllfa yn Ael y Bryn fel ag y mae ar hyn o bryd, er mwyn i ymwelwyr benderfynu sut mae'r sefydliad yn ateb eu gofynion.

  • Mae Ael y Bryn oddi ar yr A478 rhwng Aberteifi ac Abergwaun. Trowch i'r lôn wrth ochr hen adeilad Swyddfa Post Eglwyswrw (yr adeilad a ddaw yn syth ar ôl y maes parcio) a dilynwch y lôn honno am ¼ milltir. Wrth i'r lôn ledaenu, mae Ael y Bryn ar y chwith.

  • Mae mynediad dros grid gwartheg llydan neu drwy gat i gerddwyr i ardal barcio a bacio ar darmac gwastad.

  • Mae'r fynedfa, y dreif a'r llwybrau wedi'u goleuo gyda'r nos.

  • Mae llwybr gwastad o amgylch perimedr y tŷ.

  • Mae palmant gwastad o'r ardal barcio i'r drysau blaen dwbl, yr iard fewnol a'r ystafell haul.

  • Gallwn gynnig cymorth gyda bagiau.

  • Mae gan yr ystafell gotiau yn y neuadd dderbyn ddrws yn agor am allan.

  • Mae'r holl ystafelloedd i'r cyhoedd ar y llawr gwaelod.

  • Mae tair ystafell i ymwelwyr: mae mynediad i un ystafell yn wastad â'r llawr; mae mynediad i'r ddwy ystafell wely arall i lawr bum gris.

  • Mae dau set o risiau, y ddau â phum gris yr un. Mae lifft platfform (sydd yn 650mm o led) ar gael i gadeiriau olwyn i gysylltu yr ystafelloedd i'r cyhoedd â dwy o'r ystafelloedd gwely.

  • Mae'r holl ystafelloedd a'r neuadd wedi'u goleuo'n dda gyda digonedd o olau dydd neu olau lamp yn y nos. Mae'r coridorau yn 950mm o led.

  • Mae'r drysau mewnol yn agor i led clir o 898mm, ac mae iddynt ddolenni lifer.

  • Mae cyfleusterau ensuite i'r tair ystafell wely i ymwelwyr. Gellir trefnu'r gwelyau yn dwy o'r ystafelloedd fel gwelyau gefell neu fel gwely maint superking. Mae'r gwely yn y drydedd ystafell yn un kingsize.

  • Mae bath a chawod ar wahân i bob ystafell, gyda'r gawod yn 1200 mm o led, a drws llithro (420mm o led ar agor) ac mae gris 150mm (6”) i mewn iddo.

  • Mae i bob ystafell ymolchi ddigon o olau naturiol, golau'n hongian o'r nenfwd, system awyru naturiol a ffan wagio.

  • Byddwn yn cynnig cymorth mewn unrhyw argyfwng sy'n digwydd codi.

  • Mae i bob ystafell wely degell ddiwifr gyda chyfleusterau gwneud te a choffi, teledu gyda chwaraeydd DVD, cloc larwm-radio/chwaraeydd CD ac oergell fach.

  • Gan fod nifer o nodweddion dŵr yn rhan o'r eiddo nid yw'r llety yn addas ar gyfer plant o dan 16 oed.

  • Nid oes gennym gŵn nac unrhyw anifeiliaid eraill; ni allwn ddarparu llety i anifeiliaid anwes.

  • Mae rhwydweithiau ffôn ar gael yma, heblaw ar hyd rhannau o'r arfordir a'r mynyddoedd.

  • Mae gwybodaeth am deithiau "cerdded" i gadeiriau olwyn ar hyd neu ger y Llwybr Arfordirol. Mae gwasanaeth Shopmobility ar gael yn Aberteifi a Hwlffordd.

  • Mae Ael y Bryn wedi'i leoli mewn ardal wledig; mae gwartheg a defaid yn pori mewn caeau gerllaw. Mae golygfeydd panoramig helaeth o fynyddoedd y Preseli.

  • Mae nifer o flodau persawrus a pherlysiau, a cherfluniau pren a metel yn yr ardd. Mae llwybr o amgylch yr ardd a phwll dŵr gyda mannau i eistedd. Mae nifer o nodweddion dŵr o amgylch yr eiddo gyda phistyll, rhaeadrau, nant naturiol a phwll dŵr gyda bywyd gwyllt. Mae 'r pwll dŵr yn denu ystod eang o adar a bywyd gwyllt.

  • Mae bws trafnidiaeth gyhoeddus i Aberteifi (Cardigan) a Hwlffordd (Haverfordwest) drwy Abergwaun (Fishguard) ar ddiwedd y lôn. Mae gwasanaethau tacsi lleol ar gael yn Aberteifi a Boncath.