Rydym yn gallu darparu llety ar gyfer 6 gwesteion mewn 3 ystafell ddwbl: mae gennym ddwy ystafell ddwbl/efell fawr a moethus ac un ystafell wely ddwbl fawr a moethus.
Mae cyfleusterau ensuite i bob ystafell wely. Mae'r ystafelloedd ymolchi yn olau ac eang; mae bath a chawod fawr ar wahân i bob un. Mae digon o ddŵr poeth o'r prif gyflenwad i'r gawod. Rydym hefyd yn darparu gynau ymolchi tyweli.
Mae'r ystafelloedd i gyd wedi'u dodrefnu gyda chwpwrdd dillad a droriau gyda lle digonol, a bwrdd gwisgo gyda golau darllen annibynnol. Mae cyfleusterau gwneud te a choffi wedi'u darparu.
Mae i bob ystafell fynediad i'r we, ffan i oeri, cloc larwm-radio digidol DAB, a chwaraeydd DVD/ CD'au/teledu wedi'u cyfuno. Mae Freeview a darllenydd cerdyn SD i'r teledu.
Gellir trefnu'r gwelyau yn yr ystafell ddwbl/efell fel dau wely sengl neu fel gwely super king, yn ôl eich dymuniad, er mwyn ychwanegu elfen o foethusrwydd. Mae gwely king-size yn yr ystafell ddwbl.
Ystafell 'Carningli'
Ystafell ar y llawr gwaelod yw hon, gallwn ei threfnu fel ystafell efell neu gyda gwely superking. Mae mynediad i'r ystafell yn wastad â'r llawr.
|
 |
 |
 |
 |
Y gwely wedi'i osod fel superking; gallwn hefyd ei drefnu fel dau wely gefell. |
Wrth edrych tuag at yr ystafell ymolchi ensuite |
Y basn ymolchi, tŷ bach a'r gawod. |
Y bath a'r basn ymolchi. |
|
Ystafell 'Preseli'
Ystafell ddwbl ar y llawr gwaelod yw hon a gallwn ei threfnu fel ystafell efell neu superking. Mae pum gris i'w disgyn o'r llawr gwaelod i'r ystafell. Mae lifft platfform ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael ar gyfer mynediad hefyd.
|
 |
 |
 |
 |
Y gwely wedi'i osod fel gwely superking; gallwn hefyd ei drefnu fel dau wely gefell. |
Wrth edrych tuag at yr ystafell ymolchi ensuite. |
Ystafell ymolchi ensuite: y tŷ bach a'r gawod |
Ystafell ymolchi ensuite: y basn ymolchi a'r bath |
|
Ystafell 'Pengelli'
Ystafell ddwbl ar y llawr gwaelod yw hon gyda gwely king-size. Mae pum gris i'w disgyn o'r llawr gwaelod i'r ystafell. Mae lifft platfform ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael ar gyfer mynediad hefyd.
|
 |
 |
 |
 |
Y gwely wrth edrych tuag at y ffenestr. |
Y bwrdd gwisgo yn yr alcof. |
Yr ystafell ymolchi ensuite. |
Yr ystafell ymolchi o'r ystafell wely. |