Mae prydau gyda'r hwyr ar gael, gyda rhybudd o flaen llaw. Rydym wrth ein bodd yn paratoi a chyflwyno prydau blasus gan ddefnyddio'r cynhwysion Cymreig gorau pan fo hynny'n bosibl. Gallwn baratoi prydau rhyngwladol a llysieuol yn ôl y galw. Gallwn gynnig pryd dau neu dri chwrs gyda'r hwyr.
Wrth drefnu i aros rhowch wybod, os gwelwch yn dda, am unrhyw anghenion dietegol, er enghraifft os ydych yn llysieuwr, ac yn enwedig os oes bwydydd y dylem osgoi eu paratoi ar eich cyfer.
Nid oes gennym drwydded i werthu alcohol, ond mae croeso i chi ddod â gwin eich hun. Nid ydym yn codi tâl gweini.
Rydym yn paratoi pryd penodol ar gyfer bob dydd a dewis o ddau bwdin. Mae'r fwydlen ganlynol yn rhoi syniad o'r hyn yr ydym yn ei ddarparu: