Polisi Amgylcheddol Ael y Bryn, Eglwyswrw

Busnes gwely a brecwast bach wedi'i leoli tu allan i bentref Eglwyswrw yng Ngogledd Sir Benfro yw Ael y Bryn. Rydym ar agor gydol y flwyddyn, heblaw y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ac yn gallu darparu llety i hyd at chwech o westai ar y tro gan gynnig gwely, brecwast a phryd gyda'r hwyr. Codwyd yr adeilad yn wreiddiol yn 1942 ac fe'i ail-godwyd yn 2002 gyda defnydd effeithlon o egni mewn golwg.

Rydym yn cydnabod fod rhedeg ein busnes ag effaith ar yr amgylchedd. O gael ein hamgylchynu gan y wlad rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi prydferthwch yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddi a'r angen parhaol i'w warchod ym mhopeth yr ydym yn ei wneud. Rydym wedi ymroi i gyfuno llety gwely, brecwast a phryd gyda'r nos o'r safon uchaf gydag effaith isel ar yr amgylchedd.

Er mwyn cyflawni ein nod i warchod yr amgylchedd rydym wedi ymrwymo i wella'r hyn yr ydym yn ei wneud yn barhaus drwy: leihau gwastraff, compostio, ailgylchu a'r defnydd effeithlon o egni.

Wrth gyflwyno'r addewidion hyn rydym yn:

14 Medi 2007