Adeliad o ddiddordeb lleol hanesyddol ar gyrion Eglwyswrw yw Ael y Bryn. Diddorol yw ei story.
Yn ystod 1942 hawliwyd dwy a hanner erw o dir fferm Y Frochest gan Adran y Llywodraeth ar gyfer adeiladu hostel i weithwyr amaethyddol. Yr adeiladwyr oedd y contractwyr cenedlaethol ‘Higgs and Hill’ gan ddefnyddio priddfeini o Wdig, Emlyn a Thrimsaran.
Un o adeiladau pensaeriol mwyaf trawiadol y cwmni yw Adeilad Hoover yn Perivale, Dwyrain Llundain, wedi ei gynllunio yn null Art Deco yn 1932.
Cynlluniwyd dwy aden – un i’r dwyrain a’r llall i’r gorllwein yn Hostel Eglwyswrw. Roedd y naill aden rhwng 30 a 40 meder o hyd a 6 medr o led. Yn aden y dwyrain oedd y swyddfeydd a’r adran reoli gyda’r anneddau yn yr aden orllewinol. Rhanwyd yr adeilad yn gyfadrannau gyda 8 gwely (bync) ymhob cyfadran. Roedd y cawodydd a’r cyfleusterau glanweithdra o dan y tŵr. Adeiladwyd tramwyfa gul i uno’r ddwy aden.
Yn ddiweddarach codwyd adeilad asbestos ar gyfer hamdden – erbyn hyn mae hwn wedi ei ddymchwel.
Buan y deallwyd fod y cyflenwad dŵr o fferm Y Frochest yn annigonol I tua deugain o bobl. Yna, daeth cyflenwad o Ffynnon Fair ym mhentref Eglwyswrw – deil y tarddiant i lifo ar dir Tyddyn Castell. Pwmpiwyd y dŵr yn ddyddiol a’i storio mewn tanciau yn y tŵr. Roedd cynllun carthffosaeth effeithiol i’r adeilad. Nid oedd defnydd i’r gwelyau rhidyllu na’r tŵr dŵr mwyach ond maent yn nodweddion amlwg o’r adeilad presennol.
Deiliaid cyntaf yr Hostel oedd aelodau Byddin y Tir - merched oedd wedi dewis gweithio ar y tir fel eu hymdrech yn ystod y Rhyfel. Roedd ‘matron’ yn gyfrifol am les y merched ac roeddent yn gweithio ar ffermydd cyfagos. Roeddent yn rhydd i fynd a dod a mynychent wasanaethau hwyrol Eglwys y Plwyf.
Yna aeth y fintai ymlaen i Groesgoch ger Tyddewi a daeth gweithwyr o Iwerddon yn eu lle o dan yr un telerau.
Y fintai nesaf i gyrraedd oedd carcharorion Eidalaidd a ildiodd i’r cynghreiriaid yn ystod Ymgyrch Gogledd yr Affrig. Cyfyngwyd eu symudiadau a chaent eu cludo mewn loriau i ffermydd yn ddyddiol. Roedd rhingyll a thri neu bedwar milwr ar ddyletswydd gwarchod trwy’r amser. Gwisgai’r carcharorion lifrau brown gyda chylch melyn tu flaen ac ar eu cefnau fel y gellid eu hadbnabod os digwyddau tro chwithig.
Yna daeth y carcharorion Almaenaidd o dan yr un amodau.
Gyda diwedd y Rhyfel ymadawodd y carcharorion a daeth mintai o filwyr Glwad Pwyl - bechgyn a fu’n ymladd dros y cyngheiriaid yn y Rhyfel. Erbyn hyn roedd y sefyllfa wleidyddol yng Ngwlad Pwyl yn fregus iawn a byddai’n rhy beryglus iddynt ddychwelyd.
Erbyn 1952 roedd yr Hostel yn ôl yn nwylo teulu fferm Y Frochest a ddefnyddiwyd yr adeilad i gadw anifeiliaid yn ystod y gaeaf.
Yn y cyfamser mae dau ŵr ifanc fu’n gorfod ymladd yn y Rhyfel Yng Ngogledd yr Affrig (ac ymhell o’u teuluoedd yn ystod eu arhosiad yn Eglwyswrw) wedi cysylltu gan sôn am y caredigrwydd a ddangoswyd iddynt tra’n gweithio ar ffermydd y Cymry.
Pan ddarganfuom yr adeilad yn 2000 roeddent mewn cyflwr gwael. Yna, prynnu’r safle ac yna cynllunio a’i ddatblygu i’r cartref teuluol a welwch heddiw. Mae’r ddwy aden yn wreiddiol ac ychwanegwyd dau estyniad i’w cysylltu i greu llyfrgell a libart mewnol. Mae nodwedd ffenestri culion y libart yn adlewyrchu'r cynllun gwreiddiol. Adeiladwyd y muriau o briddfeini dwbl gyda phriddfeini o Wdig o’r tu allan. Cadwyd fframwaith yr adeilad gyda muriau mewnol wedi eu insileiddio. Mae’r hen briddfeini wedi eu hailgylchu i ffurfio llwybrau, rhaeadrau a llynnoedd.
Gellir weld enghreifftiau o luniau ar y chwith sy’n dangos y tŷ cyn, ac ar ôl ailadeiladu. Cliciwch ar bob llun er mwyn ei weld yn fwy o faint.