Mae Ael y Bryn wedi'i leoli'n gyfleus iawn ac yn eich galluogi i ddarganfod nifer o leoliadau diddorol, a gweithgareddau, yn Sir Benfro, Bae Ceredigion a Gorllewin Cymru. Yn ystod eich hymweliad byddwn yn fwy na balch i gynnig gwybodaeth a chyngor er mwyn i chi gael y gorau o'ch arhosiad. Isod mae rhestr o rai o leoedd o ddiddordeb a'r math o weithgareddau sydd gan yr ardal hynod brydferth ac ysbrydol hon i'w gynnig.
Tripiau dydd o Ael y Bryn
Mae nifer o leoedd diddorol i ymweld â nhw o fewn pellter gyrru cyfforddus o Ael y Bryn.
Sefydliadau a Gwybodaeth ddefnyddiol
Mae nifer o ddigwyddiadau y gall pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd eu mwynhau yn Sir Benfro, gyda nifer o wyliau yn y gymuned, carnifalau, ffeiriau bwyd, cerddoriaeth, celfyddydau a digwyddiadau awyr-agored a fydd at ddant pawb.
I weld rhestr ddigwyddiadau yn ôl mis, cliciwch yma.
Gan ein bod wedi'n lleoli yng nghalon cefn gwlad mae'n siŵr y byddwch, fel ni, am gadw at y Cod Cefn Gwlad, er mwyn gwneud yn fawr o'ch hamser a mwynhad eraill: