Mynedfa Ael y Bryn. Te croesawu wrth gyrraedd Ael y Bryn.
Sut i ddod o hyd i ni Croeso Cymru grad 5 seren.Ennillwr y Wobr Aur Croeso Cymru 2010.

Iaith Cymraeg English Language
Tudalen blaen
Yr ystafelloedd gwely
Bwyd
Prisiau gwely, brecwast a phryd min nos
Sut i ddod o hyd i ni
Datganiad Mynediad
Gweithgareddau yn Sir Benfro
Yr hyn mae gwesteion yn ei werthfawrogi
Oriel
Polisi'r amgylchedd
Hanes Ael y Bryn
Ymholiadau



stay@aelybrynpembrokeshire.co.uk

Ael y Bryn

Eglwyswrw

Crymych

Sir Benfro

Gorllewin Cymru

SA41 3UL

UK


FFôn:

+44 (0)1239 891411




Cysylltiadau'r we

Mae Ael y Bryn oddi ar yr A487 yn Eglwyswrw, Gogledd Penfro – cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SN 141 392 – neu fap lleoliad.

I ddod o hyd i'r ffordd atom, rhowch ein cod post: SA41 3UL i un o'r cynllunwyr teithio ar lein:
Yr AA, Yr RAC, a Green Flag.

Cyfeiriadau ffordd o Abergwaun (Fishguard)

  • O Abergwaun, ewch ar hyd yr A487 am Aberteifi (cardigan).

  • Ewch trwy Trefdraeth (Newport).

  • Yn Eglwyswrw, mae'r eglwys ar y dde a'r maes parcio bach ar y chwith.

  • Ewch heibio'r maes parcio a thrwoch i'r chwith i lôn gul.

  • Mae'r lôn yn gwyro i'r dde – dilynwch y lôn i fyny'r rhiw am ryw ¼ milltir.

  • Ewch yn syth heibio'r troad sydd ar y chwith ac ar ôl 100 llath/metr, wrth i'r lôn ledaenu, mae Ael y Bryn ar y chwith.

  • Trwoch i'r tŷ dros y grid gwartheg, at groeso gwresog.

Cyfeiriadau ffordd o Aberteifi (Cardigan)

  • O Aberteifi, ewch ar hyd yr A487 am Abergwaun (Fishguard).

  • Yn Eglwyswrw, ar waelod y rhiw ac wedi'r arwydd 30 m.y.a., trowch i'r dde i lôn gul.

  • Mae'r lôn yn gwyro i'r dde – dilynwch y lôn i fyny'r rhiw am ryw ¼ milltir.

  • Ewch yn syth heibio'r troad sydd ar y chwith ac ar ôl 100 llath/metr, wrth i'r lôn ledaenu, mae Ael y Bryn ar y chwith.

  • Trwoch i'r tŷ dros y grid gwartheg, at groeso gwresog.

Cyfeiriadau ffordd o Gaerfyrddin (Carmarthen)

  • O Gaerfyrddin, ewch ar hyd yr A40 tuag at Hwlffrodd (Haverfordwest).

  • Wedi mynd drwy Landdewi Velfrey, trowch i'r dde ar gylchfan Penblewin ar yr A478 i Aberteifi.

  • Yng Nghrymych, trowch i'r chwith wrth ochr y Crymych Arms ar heol dda, ond sydd heb rif iddi, i Eglwyswrw.

  • Wrth y cyffordd-T, trowch i'r chwith ar y B4332 i Eglwyswrw.

  • Wrth y gyffordd-T (gyda'r eglwys ar y dde) trowch i'r dde i fynd ar yr A487.

  • Ewch heibio'r maes parcio ar y chwith a'r tŷ lliw hufen cyn troi i'r chwith i lôn gul.

  • Mae'r lôn yn gwyro i'r dde – dilynwch y lôn i fyny'r rhiw am ryw ¼ milltir.

  • Ewch heibio'r troad sydd ar y chwith ac ar ôl 100 llath/metr, wrth i'r lôn ledaenu, mae Ael y Bryn ar y chwith.

  • Trwoch i'r tŷ dros y grid gwartheg, at groeso gwresog.

Nodyn i ddefnyddwyr llywio lloeren: Os nad ydych yn dilyn y cyfeiriadau uchod ond yn dilyn y ffordd fyrraf, ar ôl mynd drwy Gaerfyrddin gall eich cyfeirio oddi ar A40 i'r B4298 drwy Feidrim. Mae'r heol B hon yn gul mewn mannau gyda throeon siarp. Awgrymwn eich bod yn anwybyddu cyfeiriadau'r llywio lloeren ac yn parhau tuag at Sanclêr a dilyn cyfeiriadau eich llywio lloeren oddi yno wedi iddo ail-ddarganfod llwybr.

Cysylltiadau trên

Gorsafoedd agosaf: Caerfyrddin, Hendy-gwyn-ar-Daf (Whitland) a Chlunderwen (gorsaf aros ar gais). Mae First Great Western yn trefnu trenau yn syth o Lundain i Abertawe; rhaid newid yn Abertawe ar gyfer cysylltiadau i'r gorsafoedd uchod. Mae First Great Western yn gwasanaethu un trên yn syth o Lundain i Gaerfyrddin yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sul – er hynny gwnewch ymholiadau drwy'r gwasanaethwyr am fanylion.

Cysylltiadau Awyr

Meysydd Awyr agosaf: Caerdydd neu Fryste.

Cysylltiadau Môr

Gwasanaethir Abergwaun (i Rosslare) gan Stena Line; Doc Penfro (i Rosslare) drwy Irish Ferries; Abertawe (i Cork) drwy Swansea Cork Ferries.