|
Amodau a Thelerau wrth drefnu llety yn Ael y Bryn, Eglwyswrw
Edrychwn ymlaen at eich croesawu. Wrth i chi drefnu lle i aros yma rydych yn dod i gytundeb gyda ni. Os gwelwch yn dda darllenwch amodau a thelerau bwcio, sydd i'w gweld isod.
Pris a Manylion Talu
Mae prisiau wrth y person am bob nos ac yn cynnwys gwely a brecwast llawn wedi'i goginio.
Mae'r ystafelloedd gwely yn ensuite ac mae cyfleusterau gwneud coffi a the am ddim ar gael.
Er mwyn cadarnhau'r trefniant rydym yn gofyn am flaendal o leiafswm o gost noson o wely a brecwast i bob gwestai.
Nid yw'n bosibl dychwelyd na throsglwyddo blaendal. Os gwelwch yn dda sicrhewch fod pob blaendal yn ein cyrraedd o fewn deng niwrnod o drefnu'r llety.
Byddwn yn danfon llythyr neu e-bost i gadarnhau'r trefniant gyda manylion gweddill y swm sy'n daladwy.
Mae'r gweddill i'w dalu wrth i chi adael y llety.
Os ydych yn aros am un noson yn unig rydym yn gofyn eich bod yn talu'r swm cyfan o flaen llaw.
Rydym yn derbyn taliadau mewn arian parod neu siec bersonol, nid oes gennym fodd i dderbyn cardiau credyd na debyd. Gwenwch sieciau'n daladwy i Ael y Bryn os gwelwch yn dda.
Dileu trefniadau ac Yswiriant
Wedi i chi drefnu eich arhosiad, mae'n trefniant ni yn gytundeb cyfreithiol ac ni ellir dychwelyd na throsglwyddo blaendal.
Os fydd yn rhaid i chi ddileu'r trefniant cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda.
Pan fo'n bosibl dylai trefniant gael ei ddileu yn ysgrifenedig.
Os ydych yn dileu'r trefniant fwy na saith niwrnod cyn dyddiad eich cyrhaeddiad ni fydd disgwyl i chi dalu'r swm llawn.
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ail-osod eich hystafell ac aildrefnu'r taliad yn gyson â hynny.
Os ydych yn dileu'r trefniant o fewn saith niwrnod i ddyddiad eich cyrhaeddiad bydd disgwyl i chi dalu'r cyfanswm yn llawn.
Os nad ydych yn dileu'r trefniant ond yn methu cyrraedd ar gyfer y gwyliau yn rhannol neu yn ei gyfanrwydd, neu yn gadael y llety yn gynnar, byddwn yn codi'r swm cyfan arnoch.
Am y rhesymau hyn efallai yr hoffech ystyried trefnu yswiriant dileu trefniant.
Os na fydd llety ar gael
Os ydym yn cael ein gorfodi i ddileu y trefniant am resymau tu hwnt i'n rheolaeth fe wnawn ein gorau i roi gwybod cyn gynted ag sy'n rhesymol bosibl.
Byddem yn ceisio gwneud trefniadau eraill i chi, er hynny, os nad yw hynny'n bosibl, neu os nad yw'n dderbyniol i chi, byddem yn ad-dalu'r holl arian yn ymwneud â'r llety y gwnaethoch ei dalu.
Nid yw ein atebolrwydd parthed â dileu'r trefniant yn ymestyn ymhellach na hyn.
Cyrraedd
Bydd eich hystafell yn barod ar eich cyfer am 4pm ar ddyddiad eich cyrhaeddiad, heblaw fod trefniant arall.
Byddem yn gwerthfawrogi petaech yn gallu rhoi gwybod i ni tua phryd y byddwch yn disgwyl cyrraedd.
Petai chi'n dymuno cyrraedd yn gynharach, i barcio neu adael bagiau ayb, rhowch wybod i ni o flaen llaw os gwelwch yn dda.
Rhowch wybod i ni os fyddwch yn cyrraedd yn hwyrach na 8pm.
Gadael
Rhaid i ystafelloedd fod yn wag a'r bil wedi'i dalu erbyn 10am ar y bore yr ydych yn gadael, heblaw fod trefniant arall.
Os ydych yn dymuno gadael bagiau ayb, neu barcio wedi'r amser y bydd disgwyl i chi adael rhowch wybod i ni o flaen llaw os gwelwch yn dda.
Atebolrwydd
Mae pob ymdrech resymol wedi'i wneud er mwyn sicrhau diogelwch ein gwesteion.
Ni allwn gymryd cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod, golled, ddamwain neu salwch a gaiff unrhyw westai nac aelod o'u parti na'u cerbydau neu'u heiddo.
Cyffredinol
Mae gennym amgylchedd hollol ddi-fwg.
Yn anffodus ni allwn ddarparu llety i anifeiliaid anwes.
Os gwelwch yn dda rhowch wybod i ni o flaen llaw am unrhyw anghenion penodol wrth i chi drefnu llety.
Os gwelwch yn dda rhowch wybod i ni o flaen llaw os oes gennych unrhyw anghenion bwyd penodol er enghraifft os ydych yn llysieuwr neu os oes gennych alergedd neu ddim yn hoffi bwydydd o unrhyw fath.
Nid ydym yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw beth sydd heb ei gynnwys neu sy'n anghywir, ond yn cadw pob hawl i ddiweddaru a newid yr wybodaeth sydd wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan.
|