Brecwast a gwely yn Sir Benfro yn Ael y Bryn.
Croeso Cymru grad 5 seren. Ennillwr y Wobr Aur Croeso Cymru 2010. Gwobr Cynllun Croeso. Croesawn cerddwyr. Croesawn beicwyr.

Gwely a brecwast yn Sir Benfro yn Ael y Bryn

Iaith Cymraeg English Language
Tudalen blaen
Yr ystafelloedd gwely
Bwyd
Prisiau gwely, brecwast a phryd min nos
Sut i ddod o hyd i ni
Datganiad Mynediad
Gweithgareddau yn Sir Benfro
Yr hyn mae gwesteion yn ei werthfawrogi
Oriel
Polisi'r amgylchedd
Hanes Ael y Bryn
Ymholiadau



stay@aelybrynpembrokeshire.co.uk

Ael y Bryn

Eglwyswrw

Crymych

Sir Benfro

Gorllewin Cymru

SA41 3UL

UK


FFôn:

+44 (0)1239 891411




Cysylltiadau'r we

Mae gwely a brecwast yn Sir Benfro yn Ael y Bryn, Eglwyswrw yn cynnig profiad go anarferol ym myd llety gwesteion heddiw. Mae Ael y Bryn yn lle arbennig i aros; 'rydym yn cynnig llety ensuite eang a chyfforddus ar y llawr gwaelod.

Yn ychwanegol, rydym yn cynnig prydau bwyd gyda’r nos ardderchog yn seiliedig ar goginio cartref coeth. Mae Ael y Bryn yn lle arbennig i aros ac i ddathlu penblwydd a phenblwydd priodas.

Mae gwely a brecwast yn Sir Benfro yn Ael y Bryn, Eglwyswrw, ynghyd â phrydau bwyd gyda’r nos ardderchog yn seiliedig ar goginio cartref coeth, yn cynnig profiad go anarferol ym myd llety gwesteion heddiw. 'Rydym yn cynnig llety ensuite eang a chyfforddus ar y llawr gwaelod.

'Rydym yn anelu am y safonau uchaf, ac adlewyrchir hyn gan y marc uchaf a’r Wobr Aur gan Croeso Cymru am ansawdd anhygoel, cyfforddusrwydd eithriadol a chroeso di-feth.

Mae Ael y Bryn nid yn unig wedi’i leoli’n gyfleus ar gyfer y llwybr arfordirol, bryniau’r Preseli a gweithgareddau cefn gwlad, ond hefyd ar gyfer y sawl sydd am fwynhau heddwch a llonyddwch cefn gwlad Sir Benfro.

'Rydym yn croesawu beicwyr a cherddwyr - mae gennym storfa saff a lle i sychu dillad a bagiau gwlyb ac ati

Mae gennym ddigon o le i barcio ar darmac, gyda llwybr gwastad palmantog yn arwain at y drws ffrynt.

Mae Ael y Bryn yn dŷ helaeth a moethus iawn, ac mae wedi'i adeiladu i wneud yn fawr o olau a gofod. Mae'r tŷ wedi'i amgylchynu'n gyfan gwbl gan y wlad sydd yn rhoi ymdeimlad o heddwch a thawelwch iddo a chredwn does dim gwely a brecwast gymharol ar gael yn holl Sir Benfro a Chymru.

Mae'r prif nodweddion yn cynnwys:

  • Ystafell gerddoriaeth/lolfa agored gyda thrawstiau pren.

  • Ystafell fwyta agored â thrawstiau pren, gyda bwrdd bwyta mawr a chanwyllyriau haearn barwnol.

  • Iard fewnol fawr gyda phwll dŵr, pistyll dŵr a phlanhigion. Mae'n ardal heddychlon iawn ac yn nodwedd unigryw wedi'i ddylunio fel rhan o'r tŷ.

  • Gardd a phwll dŵr yn llawn bywyd gwyllt.

  • Ystafell haul helaeth gyda thrawstiau pren, sydd yn edrych dros y pwll dŵr a mynyddoedd y Preseli.

  • Llyfrgell gyda dewis eang o lyfrau a fydd yn gweddu i chwaeth y mwyafrif.

Wedi'i newid Dydd Sul 29ed Awst 2010